Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 7:18-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad.

19. Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell:

20. Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol.

21. Hi a'i troes ef â'i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a'i cymhellodd ef.

22. Efe a'i canlynodd hi ar frys, fel yr ych yn myned i'r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned i'r cyffion i'w gosbi:

23. Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef; fel yr aderyn yn prysuro i'r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef.

24. Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau.

25. Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi.

26. Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig; ie, gwŷr grymus lawer a laddodd hi.

27. Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 7