Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 7:17-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes, a sinamon.

18. Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad.

19. Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell:

20. Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol.

21. Hi a'i troes ef â'i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a'i cymhellodd ef.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 7