Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 7:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fy mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi.

2. Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a'm cyfraith fel cannwyll dy lygad.

3. Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon.

4. Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares:

5. Fel y'th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw â'r ymadrodd gwenieithus.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 7