Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 7:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fy mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi.

2. Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a'm cyfraith fel cannwyll dy lygad.

3. Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon.

4. Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares:

5. Fel y'th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw â'r ymadrodd gwenieithus.

6. Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt,

7. A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo,

8. Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i'w thŷ hi,

9. Yn y cyfnos gyda'r hwyr, pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll:

10. Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanddi ymddygiad putain, ac â chalon ddichellgar.

11. (Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ:

12. Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.)

13. Hi a ymafaelodd ynddo, ac a'i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho,

14. Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned:

15. Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwilio am dy wyneb; a chefais afael arnat.

16. Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 7