12. Dyn i'r fall, a gŵr anwir, a rodia â genau cyndyn.
13. Efe a amneidia â'i lygaid, efe a lefara â'i draed, efe a ddysg â'i fysedd.
14. Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon; y mae yn dychymyg drygioni bob amser, yn peri cynhennau.
15. Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth.
16. Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr Arglwydd: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef:
17. Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a'r dwylo a dywalltant waed gwirion,
18. Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni,
19. Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a'r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.
20. Fy mab, cadw orchymyn dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam.
21. Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol; clwm hwynt am dy wddf.