1. Fy mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fy neall:
2. Fel y gellych ystyried pwyll, a'th wefusau gadw gwybodaeth.
3. Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl, a'i genau sydd lyfnach nag olew:
4. Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf daufiniog.
5. Ei thraed hi a ddisgynnant i angau; a'i cherddediad a sang uffern.
6. Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd, y symud ei chamre hi, heb wybod i ti.
7. Yr awr hon gan hynny, O blant, gwrandewch arnaf fi, ac na ymadewch â geiriau fy ngenau.
8. Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi hi, ac na nesâ at ddrws ei thÅ· hi:
9. Rhag i ti roddi dy harddwch i eraill, a'th flynyddoedd i'r creulon: