Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 5:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fy mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fy neall:

2. Fel y gellych ystyried pwyll, a'th wefusau gadw gwybodaeth.

3. Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl, a'i genau sydd lyfnach nag olew:

4. Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf daufiniog.

5. Ei thraed hi a ddisgynnant i angau; a'i cherddediad a sang uffern.

6. Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd, y symud ei chamre hi, heb wybod i ti.

7. Yr awr hon gan hynny, O blant, gwrandewch arnaf fi, ac na ymadewch â geiriau fy ngenau.

8. Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi hi, ac na nesâ at ddrws ei thŷ hi:

9. Rhag i ti roddi dy harddwch i eraill, a'th flynyddoedd i'r creulon:

10. Rhag llenwi yr estron â'th gyfoeth di, ac i'th lafur fod yn nhŷ y dieithr;

11. Ac o'r diwedd i ti ochain, wedi i'th gnawd a'th gorff gurio,

12. A dywedyd, Pa fodd y caseais i addysg! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd!

13. Ac na wrandewais ar lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i'm dysgawdwyr!

14. Bûm o fewn ychydig at bob drwg, yng nghanol y gynulleidfa a'r dyrfa.

15. Yf ddwfr o'th bydew dy hun, a ffrydiau allan o'th ffynnon dy hun.

16. Tardded dy ffynhonnau allan, a'th ffrydiau dwfr yn yr heolydd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 5