Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 30:15-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. I'r gele y mae dwy ferch, yn llefain, Moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir: ie, pedwar peth ni ddywedant byth, Digon:

16. Y bedd; y groth amhlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a'r tân ni ddywed, Digon.

17. Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a'r cywion eryrod a'i bwyty.

18. Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie, pedwar peth nid adwaen:

19. Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong yng nghanol y môr, a ffordd gŵr gyda morwyn.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 30