13. Y tlawd a'r twyllodrus a gydgyfarfyddant; a'r Arglwydd a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau.
14. Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon, ei orsedd a sicrheir byth.
15. Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam.
16. Pan amlhao y rhai annuwiol, yr amlha camwedd: ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy.
17. Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i'th enaid.
18. Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fyd ef.
19. Ni chymer gwas addysg ar eiriau: canys er ei fod yn deall, eto nid etyb.
20. A weli di ddyn prysur yn ei eiriau? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef.
21. Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o'i febyd, o'r diwedd efe a fydd fel mab iddo.
22. Gŵr dicllon a ennyn gynnen; a'r llidiog sydd aml ei gamwedd.
23. Balchder dyn a'i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd.
24. Y neb a fo cyfrannog â lleidr, a gasâ ei enaid ei hun: efe a wrendy ar felltith, ac nis mynega.
25. Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd a ddyrchefir.
26. Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae barn pob dyn.
27. Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd.