6. Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na'r traws ei ffyrdd, er ei fod yn gyfoethog.
7. Y neb a gadwo y gyfraith, sydd fab deallus: ond y neb a fyddo gydymaith i loddestwyr, a gywilyddia ei dad.
8. Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth, sydd yn casglu i'r neb a fydd trugarog wrth y tlawd.
9. Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando'r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd.
10. Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg, a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cyfiawn a feddianna ddaioni.
11. Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun: ond y tlawd deallus a'i chwilia ef allan.
12. Pan fyddo llawen y cyfiawn, y mae anrhydedd mawr: ond pan ddyrchafer yr annuwiolion, y chwilir am ddyn.
13. Y neb a guddio ei bechodau, ni lwydda: ond y neb a'u haddefo, ac a'u gadawo, a gaiff drugaredd.
14. Gwyn ei fyd y dyn a ofno yn wastadol: ond y neb a galedo ei galon, a ddigwydda i ddrwg.
15. Fel y llew rhuadus, a'r arth wancus, yw llywydd annuwiol i bobl dlodion.
16. Penadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd: ond y neb a gasao gybydd‐dra, a estyn ei ddyddiau.
17. Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffy i'r pwll; nac atalied neb ef.
18. Y neb a rodio yn uniawn, a waredir: ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd, a syrth ar unwaith.
19. Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, a gaiff ddigon o dlodi.