1. Yr annuwiol a ffy heb neb yn ei erlid: ond y rhai cyfiawn sydd hy megis llew.
2. Oherwydd camwedd gwlad, aml fydd ei phenaethiaid: ond lle y byddo gŵr pwyllog synhwyrol, y pery hi yn hir.
3. Gŵr tlawd yn gorthrymu tlodion, sydd debyg i lifddwfr yr hwn ni ad luniaeth.
4. Y rhai a ymadawant â'r gyfraith, a ganmolant yr annuwiol: ond y neb a gadwant y gyfraith, a ymladd â hwynt.
5. Dynion annuwiol ni ddeallant farn: ond y neb a geisiant yr Arglwydd, a ddeallant bob peth.
6. Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na'r traws ei ffyrdd, er ei fod yn gyfoethog.
7. Y neb a gadwo y gyfraith, sydd fab deallus: ond y neb a fyddo gydymaith i loddestwyr, a gywilyddia ei dad.
8. Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth, sydd yn casglu i'r neb a fydd trugarog wrth y tlawd.