Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 27:1-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Nac ymffrostia o'r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.

2. Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan.

3. Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau.

4. Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen?

5. Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig.

6. Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus.

7. Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i'r newynog pob peth chwerw sydd felys.

8. Gŵr yn ymdaith o'i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nyth.

9. Olew ac arogl‐darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon.

10. Nac ymado â'th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell.

11. Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i'r neb a'm gwaradwyddo.

12. Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir.

13. Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr.

14. Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.

15. Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.

16. Y mae yr hwn a'i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys.

17. Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill.

18. Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o'i ffrwyth ef: a'r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 27