15. Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth.
16. Rhodd dyn a ehanga arno, ac a'i dwg ef gerbron penaethiaid.
17. Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a'i chwilia ef.
18. Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.
19. Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a'u hymryson sydd megis trosol castell.
20. A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef.
21. Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a'r rhai a'i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef.
22. Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr Arglwydd.
23. Y tlawd a ymbil; a'r cyfoethog a etyb yn erwin.
24. Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.