Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 16:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i'r Arglwydd, efe a bair i'w elynion fod yn heddychol ag ef.

8. Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam.

9. Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef.

10. Ymadrodd Duw sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn.

11. Pwys a chloriannau cywir, yr Arglwydd a'u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 16