5. Ffiaidd gan yr Arglwydd bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog.
6. Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn yr Arglwydd y mae ymado oddi wrth ddrwg.
7. Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i'r Arglwydd, efe a bair i'w elynion fod yn heddychol ag ef.
8. Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam.
9. Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef.
10. Ymadrodd Duw sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn.
11. Pwys a chloriannau cywir, yr Arglwydd a'u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god.
12. Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd.
13. Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a'r brenin a gâr a draetho yr uniawn.
14. Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a'i gostega.
15. Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a'i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar.
16. Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunol yw nag arian.
17. Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid.
18. Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp.
19. Gwell yw bod yn ostyngedig gyda'r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda'r beilchion.
20. A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a'r neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, O gwyn ei fyd hwnnw!