Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 14:6-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i'r deallus.

7. Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth.

8. Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll.

9. Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd: ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da.

10. Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a'r dieithr ni bydd gyfrannog o'i llawenydd hi.

11. Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua.

12. Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau.

13. Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch.

14. Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o'i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef.

15. Yr ehud a goelia bob gair: a'r call a ddeil ar ei gamre.

16. Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus.

17. Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar.

18. Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth.

19. Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus: a'r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 14