Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 14:12-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau.

13. Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch.

14. Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o'i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef.

15. Yr ehud a goelia bob gair: a'r call a ddeil ar ei gamre.

16. Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 14