1. Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a'i tyn ef i lawr â'i dwylo.
2. Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder, sydd yn ofni yr Arglwydd; a'r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef.
3. Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a'u ceidw hwynt.
4. Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych.
5. Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau.
6. Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i'r deallus.
7. Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth.
8. Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll.
9. Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd: ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da.
10. Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a'r dieithr ni bydd gyfrannog o'i llawenydd hi.
11. Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua.
12. Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau.
13. Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch.
14. Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o'i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef.