Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:9-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.

10. Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda'r pwyllog y mae doethineb.

11. Golud a gasgler trwy oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â'i law a chwanega.

12. Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben.

13. Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13