6. Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur.
7. Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo.
8. Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd.
9. Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.
10. Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda'r pwyllog y mae doethineb.
11. Golud a gasgler trwy oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â'i law a chwanega.
12. Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben.
13. Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir.
14. Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau.
15. Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.
16. Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.
17. Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd.
18. Tlodi a gwaradwydd fydd i'r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir.
19. Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.