Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:17-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd.

18. Tlodi a gwaradwydd fydd i'r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir.

19. Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.

20. Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir.

21. Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i'r rhai cyfiawn.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13