Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:15-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.

16. Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.

17. Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd.

18. Tlodi a gwaradwydd fydd i'r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir.

19. Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.

20. Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir.

21. Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i'r rhai cyfiawn.

22. Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a roddwyd i gadw i'r cyfiawn.

23. Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn.

24. Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a'i câr ef, a'i cerydda mewn amser.

25. Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13