13. Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir.
14. Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau.
15. Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.
16. Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.
17. Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd.
18. Tlodi a gwaradwydd fydd i'r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir.
19. Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.
20. Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir.
21. Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i'r rhai cyfiawn.
22. Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a roddwyd i gadw i'r cyfiawn.
23. Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn.