Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Mab doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad: ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd.

2. Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd.

3. Y neb a geidw ei enau, a geidw ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir.

4. Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras.

5. Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd.

6. Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur.

7. Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo.

8. Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd.

9. Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.

10. Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda'r pwyllog y mae doethineb.

11. Golud a gasgler trwy oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â'i law a chwanega.

12. Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben.

13. Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir.

14. Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau.

15. Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.

16. Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13