Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 12:4-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Gwraig rymus sydd goron i'w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef.

5. Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus.

6. Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a'u gwared hwynt.

7. Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif.

8. Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir.

9. Gwell yw yr hwn a'i cydnabyddo ei hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na'r hwn a'i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara.

10. Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon.

11. Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw.

12. Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 12