Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 12:15-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall.

16. Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd.

17. Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll.

18. Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth.

19. Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr.

20. Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd.

21. Ni ddigwydd i'r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg.

22. Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a ryngant fodd iddo ef.

23. Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb.

24. Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged.

25. Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a'i llawenha hi.

26. Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a'u twylla hwynt.

27. Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr.

28. Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 12