Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 9:19-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. (Canys ofnais rhag y soriant a'r dig, trwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych, i'ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd.

20. Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr, i'w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno.

21. Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo, a gymerais, ac a'i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i'r afon oedd yn disgyn o'r mynydd.

22. O fewn Tabera hefyd, ac o fewn Massa, ac o fewn Beddau'r blys, yr oeddech yn digio'r Arglwydd.

23. A phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cadesā€Barnea, gan ddywedyd, Ewch i fyny, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr Arglwydd eich Duw: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.

24. Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd er y dydd yr adnabûm chwi.

25. A mi a syrthiais gerbron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o'r blaen; am ddywedyd o'r Arglwydd y difethai chwi.

26. Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais, Arglwydd Dduw, na ddifetha dy bobl, a'th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o'r Aifft â llaw gref.

27. Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod:

28. Rhag dywedyd o'r wlad y dygaist ni allan ohoni, O eisiau gallu o'r Arglwydd eu dwyn hwynt i'r tir a addawsai efe iddynt, ac o'i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i'w lladd yn yr anialwch.

29. Eto dy bobl di a'th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â'th estynedig fraich.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 9