Deuteronomium 9:1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchenogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd;