1. Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynyddoch ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lw.
2. A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy'r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit.
3. Ac efe a'th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a'th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a'r sydd yn dyfod allan o enau yr Arglwydd y bydd byw dyn.
4. Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a'th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.
5. Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun.
6. A chadw orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i'w ofni ef.
7. Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;
8. Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl;
9. Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o'i mynyddoedd y cloddi bres.
10. Pan fwyteych, a'th ddigoni; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti.
11. Cadw arnat rhag anghofio yr Arglwydd dy Dduw, heb gadw ei orchmynion a'i farnedigaethau, a'i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw:
12. Rhag wedi i ti fwyta, a'th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt;
13. A lluosogi o'th wartheg a'th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o'r hyn oll y sydd gennyt: