6. A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon.
7. A hysbysa hwynt i'th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny.
8. A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid.
9. Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth.
10. Ac fe a dderfydd, wedi i'r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i'r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist,
11. A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist, wedi i ti fwyta, a'th ddigoni;
12. Yna cadw arnat, rhag anghofio ohonot yr Arglwydd, yr hwn a'th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed.
13. Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i'w enw ef y tyngi.
14. Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o'ch amgylch chwi:
15. (Oblegid Duw eiddigus yw yr Arglwydd dy Dduw yn dy fysg di,) rhag i lid yr Arglwydd dy Dduw ennyn yn dy erbyn, a'th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.
16. Na themtiwch yr Arglwydd eich Duw, fel y temtiasoch ef ym Massa.
17. Gan gadw cedwch orchmynion yr Arglwydd eich Duw, a'i dystiolaethau, a'i ddeddfau, y rhai a orchmynnodd efe i ti.
18. A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr Arglwydd: fel y byddo da i ti, a myned ohonot i mewn, a pherchenogi'r wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr Arglwydd i'th dadau di;
19. Gan yrru ymaith dy holl elynion o'th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd.
20. Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i chwi?