Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 5:23-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A darfu, wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch, (a'r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch ataf, sef holl benaethiaid eich llwythau, a'ch henuriaid chwi;

24. Ac a ddywedasoch, Wele, yr Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant, a'i fawredd; a'i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddiw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddyn, a byw ohono.

25. Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a'n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr Arglwydd ein Duw mwyach, marw a wnawn.

26. Oblegid pa gnawd oll sydd, yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw?

27. Nesâ di, a chlyw yr hyn oll a ddywed yr Arglwydd ein Duw; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd ein Duw wrthyt ti: a nyni a wrandawn, ac a wnawn hynny.

28. A'r Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant.

29. O na byddai gyfryw galon ynddynt, i'm hofni i, ac i gadw fy holl orchmynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i'w plant yn dragwyddol!

30. Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i'ch pebyll.

31. Ond saf di yma gyda myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion, a'r deddfau, a'r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i'w pherchenogi

32. Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: na chiliwch i'r tu deau nac i'r tu aswy.

33. Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 5