Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 5:20-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

21. Ac na chwennych wraig dy gymydog ac na chwennych dŷ dy gymydog, na'i faes, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim a'r y sydd eiddo dy gymydog.

22. Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmwl, a'r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond ysgrifennodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a'u rhoddes ataf fi.

23. A darfu, wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch, (a'r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch ataf, sef holl benaethiaid eich llwythau, a'ch henuriaid chwi;

24. Ac a ddywedasoch, Wele, yr Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant, a'i fawredd; a'i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddiw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddyn, a byw ohono.

25. Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a'n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr Arglwydd ein Duw mwyach, marw a wnawn.

26. Oblegid pa gnawd oll sydd, yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw?

27. Nesâ di, a chlyw yr hyn oll a ddywed yr Arglwydd ein Duw; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd ein Duw wrthyt ti: a nyni a wrandawn, ac a wnawn hynny.

28. A'r Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant.

29. O na byddai gyfryw galon ynddynt, i'm hofni i, ac i gadw fy holl orchmynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i'w plant yn dragwyddol!

30. Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i'ch pebyll.

31. Ond saf di yma gyda myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion, a'r deddfau, a'r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i'w pherchenogi

32. Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: na chiliwch i'r tu deau nac i'r tu aswy.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 5