Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 5:10-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.

11. Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.

12. Cadw y dydd Saboth i'w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

13. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:

14. Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th ych, na'th asyn, nac yr un o'th anifeiliaid, na'th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a'th forwyn, fel ti dy hun.

15. A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a'th ddwyn o'r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Saboth.

16. Anrhydedda dy dad a'th fam, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti; fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

17. Na ladd.

18. Ac na wna odineb.

19. Ac na ladrata.

20. Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

21. Ac na chwennych wraig dy gymydog ac na chwennych dŷ dy gymydog, na'i faes, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim a'r y sydd eiddo dy gymydog.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 5