Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 5:1-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a'r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a'u cadw, a'u gwneuthur.

2. Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb.

3. Nid â'n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn, ond â nyni; nyni, y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw.

4. Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd, o ganol y tân,

5. (Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi, i fynegi i chwi air yr Arglwydd: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynnech i'r mynydd,) gan ddywedyd,

6. Yr Arglwydd dy Dduw ydwyf fi, yr hwn a'th ddug allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed.

7. Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.

8. Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a'r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear:

9. Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt;

10. Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.

11. Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.

12. Cadw y dydd Saboth i'w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

13. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:

14. Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th ych, na'th asyn, nac yr un o'th anifeiliaid, na'th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a'th forwyn, fel ti dy hun.

15. A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a'th ddwyn o'r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Saboth.

16. Anrhydedda dy dad a'th fam, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti; fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

17. Na ladd.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 5