Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 4:28-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwytânt ac nid aroglant.

29. Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw, ti a'i cei ef, os ceisi ef â'th holl galon, ac â'th holl enaid.

30. Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diwethaf, os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef:

31. (Oherwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw trugarog;) ni edy efe di, ac ni'th ddifetha, ac nid anghofia gyfamod dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt.

32. Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o'th flaen di, o'r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, ac o'r naill gwr i'r nefoedd hyd y cwr arall i'r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef:

33. A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw?

34. A brofodd un Duw ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid?

35. Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw, nad oes neb arall ond efe.

36. O'r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i'th hyfforddi di; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef.

37. Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl; ac a'th ddug di o'i flaen, â'i fawr allu, allan o'r Aifft:

38. I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o'th flaen di, i'th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth, fel heddiw.

39. Gwybydd gan hynny heddiw, ac ystyria yn dy galon, mai yr Arglwydd sydd Dduw yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaear oddi tanodd; ac nid neb arall.

40. Cadw dithau ei ddeddfau ef, a'i orchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; fel y byddo yn dda i ti, ac i'th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth.

41. Yna Moses a neilltuodd dair dinas o'r tu yma i'r Iorddonen, tua chodiad haul;

42. I gael o'r llofrudd ffoi yno, yr hwn a laddai ei gymydog yn amryfus, ac efe heb ei gasáu o'r blaen; fel y gallai ffoi i un o'r dinasoedd hynny, a byw:

43. Sef Beser yn yr anialwch, yng ngwastatir y Reubeniaid; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid; a Golan o fewn Basan y Manassiaid.

44. A dyma'r gyfraith o osododd Moses o flaen meibion Israel;

45. Dyma 'r tystiolaethau, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth feibion Israel, gwedi eu dyfod allan o'r Aifft:

46. Tu yma i'r Iorddonen, yn y dyffryn ar gyfer Beth‐peor, yng ngwlad Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yr hwn a drawsai Moses a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o'r Aifft:

47. Ac a berchenogasant ei wlad ef, a gwlad Og brenin Basan, dau o frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd tu yma i'r Iorddonen, tua chodiad haul;

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 4