Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 4:2-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihewch ddim ohono ef, gan gadw gorchmynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi.

3. Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr Arglwydd am Baal‐peor; oblegid pob gŵr a'r a aeth ar ôl Baal‐peor, yr Arglwydd dy Dduw a'i difethodd ef o'th blith di.

4. Ond chwi y rhai oeddech yn glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, byw ydych heddiw oll.

5. Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd fy Nuw i mi; i wneuthur ohonoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i'w meddiannu.

6. Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a'ch deall chwi, yng ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon.

7. Oblegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae Duw iddi yn nesáu ati, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ym mhob dim a'r y galwom arno?

8. A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddiw ger eich bron chwi?

9. Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio ohonynt allan o'th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i'th feibion, ac i feibion dy feibion:

10. Sef y dydd y sefaist gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, pan ddywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i'm hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i'w meibion.

11. A nesasoch, a safasoch dan y mynydd a'r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmwl, a thywyllwch dudew.

12. A'r Arglwydd a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddech yn gweled llun dim, ond llais.

13. Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i'w wneuthur, sef y dengair; ac a'u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 4