Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 34:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Moses a esgynnodd o rosydd Moab, i fynydd Nebo, i ben Pisga, yr hwn sydd ar gyfer Jericho: a'r Arglwydd a ddangosodd iddo holl wlad Gilead, hyd Dan,

2. A holl Nafftali, a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda, hyd y môr eithaf,

3. Y deau hefyd, a gwastadedd dyffryn Jericho, a dinas y palmwydd, hyd Soar.

4. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dyma'r tir a fynegais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf ef; perais i ti ei weled â'th lygaid, ond nid ei di drosodd yno.

5. A Moses gwas yr Arglwydd a fu farw yno, yn nhir Moab, yn ôl gair yr Arglwydd.

6. Ac efe a'i claddodd ef mewn glyn yn nhir Moab, gyferbyn â Beth‐peor: ac nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn.

7. A Moses ydoedd fab ugain mlwydd a chant pan fu efe farw: ni thywyllasai ei lygad, ac ni chiliasai ei ireidd‐dra ef.

8. A meibion Israel a wylasant am Moses yn rhosydd Moab ddeng niwrnod ar hugain: a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar am Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 34