5. Ac efe oedd frenin yn Israel, pan ymgasglodd pennau y bobl ynghyd â llwythau Israel.
6. Bydded fyw Reuben, ac na fydded farw, ac na bydded ei ddynion ychydig o rifedi.
7. Bydded hyn hefyd i Jwda. Ac efe a ddywedodd, Clyw, O Arglwydd, lais Jwda, ac at ei bobl dwg ef: digon fyddo iddo ei ddwylo ei hun, a bydd gymorth rhag ei elynion.
8. Ac am Lefi y dywedodd, Bydded dy Thummim a'th Urim i'th ŵr sanctaidd yr hwn a brofaist ym Massa, ac a gynhennaist ag ef wrth ddyfroedd Meriba;
9. Yr hwn a ddywedodd am ei dad ac am ei fam, Ni welais ef; a'i frodyr nis adnabu, ac nid adnabu ei blant ei hun: canys cadwasant dy eiriau, a chynaliasant dy gyfamod.
10. Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a'th gyfraith i Israel: gosodant arogldarth ger dy fron, a llosg‐aberth ar dy allor.
11. Bendithia, O Arglwydd, ei olud ef, a bydd fodlon i waith ei ddwylo ef: archolla lwynau y rhai a godant i'w erbyn, a'i gaseion, fel na chodont.
12. Am Benjamin y dywedodd efe, Anwylyd yr Arglwydd a drig mewn diogelwch gydag ef; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd, ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef.
13. Ac am Joseff y dywedodd efe, Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, â hyfrydwch y nefoedd, â gwlith, ac â dyfnder yn gorwedd isod;
14. Hefyd â hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac â hyfrydwch aeddfetffrwyth y lleuadau,
15. Ac â hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac â hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb,
16. Ac â hyfrydwch y ddaear, ac â'i chyflawnder, ac ag ewyllys da preswylydd y berth; delo bendith ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.