Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 33:16-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac â hyfrydwch y ddaear, ac â'i chyflawnder, ac ag ewyllys da preswylydd y berth; delo bendith ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.

17. Ei brydferthwch sydd debyg i gyntaf‐anedig ei ych, a'i gyrn ef sydd gyrn unicorn: â hwynt y cornia efe y bobl ynghyd hyd eithafoedd y ddaear: a dyma fyrddiwn Effraim, ie, dyma filoedd Manasse.

18. Ac am Sabulon y dywedodd efe, Ymlawenycha, Sabulon, yn dy fynediad allan; a thi, Issachar, yn dy bebyll.

19. Galwant bobloedd i'r mynydd; yna yr aberthant ebyrth cyfiawnder: canys cyfoeth y moroedd a sugnant, a chuddiedig drysorau y tywod.

20. Ac am Gad y dywedodd efe, Bendigedig yw ehangydd Gad: megis llew y mae efe yn aros, fel y rhwygo efe yr ysgwyddog a'r pen.

21. Edrychodd amdano ei hun yn y dechreuad: canys yno, yn rhan y cyfreithwr, y gosodwyd ef: efe a ddaeth gyda phenaethiaid y bobl; gwnaeth efe gyfiawnder yr Arglwydd, a'i farnedigaethau gydag Israel.

22. Am Dan hefyd y dywedodd, Dan yn genau llew a neidia o Basan.

23. Ac am Nafftali y dywedodd, O Nafftali, llawn o hawddgarwch, a chyflawn o fendith yr Arglwydd: meddianna di y gorllewin a'r deau.

24. Ac am Aser y dywedodd, Bendithier Aser â phlant: bydded gymeradwy gan ei frodyr: ac efe a wlych ei droed mewn olew.

25. Haearn a phres fydd dan dy esgid di; a megis dy ddyddiau, y bydd dy nerth.

26. Nid oes megis Duw Israel, yr hwn sydd yn marchogaeth y nefoedd yn gymorth i ti, a'r wybrennau yn ei fawredd.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 33