11. Bendithia, O Arglwydd, ei olud ef, a bydd fodlon i waith ei ddwylo ef: archolla lwynau y rhai a godant i'w erbyn, a'i gaseion, fel na chodont.
12. Am Benjamin y dywedodd efe, Anwylyd yr Arglwydd a drig mewn diogelwch gydag ef; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd, ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef.
13. Ac am Joseff y dywedodd efe, Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, â hyfrydwch y nefoedd, â gwlith, ac â dyfnder yn gorwedd isod;
14. Hefyd â hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac â hyfrydwch aeddfetffrwyth y lleuadau,
15. Ac â hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac â hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb,
16. Ac â hyfrydwch y ddaear, ac â'i chyflawnder, ac ag ewyllys da preswylydd y berth; delo bendith ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.
17. Ei brydferthwch sydd debyg i gyntafâanedig ei ych, a'i gyrn ef sydd gyrn unicorn: â hwynt y cornia efe y bobl ynghyd hyd eithafoedd y ddaear: a dyma fyrddiwn Effraim, ie, dyma filoedd Manasse.
18. Ac am Sabulon y dywedodd efe, Ymlawenycha, Sabulon, yn dy fynediad allan; a thi, Issachar, yn dy bebyll.
19. Galwant bobloedd i'r mynydd; yna yr aberthant ebyrth cyfiawnder: canys cyfoeth y moroedd a sugnant, a chuddiedig drysorau y tywod.
20. Ac am Gad y dywedodd efe, Bendigedig yw ehangydd Gad: megis llew y mae efe yn aros, fel y rhwygo efe yr ysgwyddog a'r pen.
21. Edrychodd amdano ei hun yn y dechreuad: canys yno, yn rhan y cyfreithwr, y gosodwyd ef: efe a ddaeth gyda phenaethiaid y bobl; gwnaeth efe gyfiawnder yr Arglwydd, a'i farnedigaethau gydag Israel.
22. Am Dan hefyd y dywedodd, Dan yn genau llew a neidia o Basan.
23. Ac am Nafftali y dywedodd, O Nafftali, llawn o hawddgarwch, a chyflawn o fendith yr Arglwydd: meddianna di y gorllewin a'r deau.