Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:5-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef.

6. Ai hyn a delwch i'r Arglwydd, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a'th brynwr? onid efe a'th wnaeth, ac a'th sicrhaodd?

7. Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i'th dad, ac efe a fynega i ti; i'th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt.

8. Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neilltuodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel.

9. Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef.

10. Efe a'i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffeithwch gwag erchyll:arweinioddef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad.

11. Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymer hwynt, ac a'u dwg ar ei adenydd;

12. Felly yr Arglwydd yn unig a'i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dieithr gydag ef.

13. Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o'r graig, ac olew o'r graig gallestr;

14. Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist.

15. A'r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a'i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32