17. Aberthasant i gythreuliaid, nid i Dduw; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau.
18. Y Graig a'th genhedlodd a anghofiaist ti, a'r Duw a'th luniodd a ollyngaist ti dros gof.
19. Yna y gwelodd yr Arglwydd, ac a'u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a'i ferched.
20. Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt.
21. Hwy a yrasant eiddigedd arnaf â'r peth nid oedd Dduw; digiasant fi â'u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â'r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt.
22. Canys tân a gyneuwyd yn fy nig, ac a lysg hyd uffern isod, ac a ddifa y tir a'i gynnyrch, ac a wna i sylfeini'r mynyddoedd ffaglu.
23. Casglaf ddrygau arnynt; treuliaf fy saethau arnynt.
24. Llosgedig fyddant gan newyn, ac wedi eu bwyta gan wres poeth, a chwerw ddinistr: anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod, ynghyd â gwenwyn seirff y llwch.
25. Y cleddyf oddi allan, a dychryn oddi fewn, a ddifetha y gŵr ieuanc a'r wyry hefyd, y plentyn sugno ynghyd â'r gŵr briglwyd.
26. Dywedais, Gwasgaraf hwynt i gonglau, paraf i'w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion;
27. Oni bai i mi ofni dig y gelyn, rhag i'w gwrthwynebwyr ymddwyn yn ddieithr a rhag dywedyd ohonynt, Ein llaw uchel ni, ac nid yr Arglwydd, a wnaeth hyn oll.
28. Canys cenedl heb gyngor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt.
29. O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd!
30. Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o'u Craig hwynt, a chau o'r Arglwydd arnynt?
31. Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr.
32. Canys o winwydden Sodom, ac o feysydd Gomorra, y mae eu gwinwydden hwynt: eu grawnwin hwynt sydd rawnwin bustlaidd; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt.
33. Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a chreulon wenwyn asbiaid.
34. Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi, wedi ei selio ymysg fy nhrysorau?