Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 30:9-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A'r Arglwydd dy Dduw a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr Arglwydd i lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau;

10. Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion ef a'i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid.

11. Oherwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell.

12. Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a ddring drosom i'r nefoedd, ac a'i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

13. Ac nid o'r tu hwnt i'r môr y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a dramwya drosom ni i'r tu hwnt i'r môr, ac a'i dwg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

14. Canys y gair sydd agos iawn atat, yn dy enau, ac yn dy galon, i'w wneuthur ef.

15. Wele, rhoddais o'th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni:

16. Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion a'i ddeddfau, a'i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y'th amlhaer, ac y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i'w feddiannu.

17. Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a'th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt;

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 30