Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 30:14-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Canys y gair sydd agos iawn atat, yn dy enau, ac yn dy galon, i'w wneuthur ef.

15. Wele, rhoddais o'th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni:

16. Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion a'i ddeddfau, a'i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y'th amlhaer, ac y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i'w feddiannu.

17. Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a'th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt;

18. Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i'w berchenogi.

19. Galw yr wyf yn dyst i'th erbyn heddiw y nefoedd a'r ddaear, roddi ohonof o'th flaen di einioes ac angau, fendith a melltith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a'th had;

20. I garu ohonot yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 30