3. Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a'r rhyfeddodau mawrion hynny:
4. Ond ni roddodd yr Arglwydd i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn.
5. Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd: ni heneiddiodd eich dillad amdanoch, ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed.
6. Bara ni fwytasoch, a gwin neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
7. A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, i'n cyfarfod mewn rhyfel; a ni a'u lladdasom hwynt:
8. Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac a'i rhoesom yn etifeddiaeth i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.
9. Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt: fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch.
10. Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd eich Duw; penaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a'ch swyddogion, a holl wŷr Israel,
11. Eich plant, eich gwragedd, a'th ddieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymynydd dy goed hyd wehynnydd dy ddwfr:
12. I fyned ohonot dan gyfamod yr Arglwydd dy Dduw, a than ei gynghrair ef, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei wneuthur â thi heddiw:
13. I'th sicrhau heddiw yn bobl iddo ei hun, ac i fod ohono yntau yn Dduw i ti, megis y llefarodd wrthyt, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.
14. Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfamod hwn, a'r cynghrair yma;
15. Ond â'r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd ein Duw, ac â'r hwn nid yw yma gyda ni heddiw:
16. (Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft, a'r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt;
17. A chwi a welsoch eu ffieidd‐dra hwynt a'u heilun‐dduwiau, pren a maen, arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:)
18. Rhag bod yn eich mysg ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod:
19. A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:
20. Ni fyn yr Arglwydd faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr Arglwydd a'i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a'r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a'r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.