Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 29:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyma eiriau y cyfamod a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heblaw y cyfamod a amododd efe â hwynt yn Horeb.

2. A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aifft, i Pharo, ac i'w holl weision, ac i'w holl dir;

3. Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a'r rhyfeddodau mawrion hynny:

4. Ond ni roddodd yr Arglwydd i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn.

5. Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd: ni heneiddiodd eich dillad amdanoch, ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed.

6. Bara ni fwytasoch, a gwin neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

7. A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, i'n cyfarfod mewn rhyfel; a ni a'u lladdasom hwynt:

8. Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac a'i rhoesom yn etifeddiaeth i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.

9. Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt: fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch.

10. Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd eich Duw; penaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a'ch swyddogion, a holl wŷr Israel,

11. Eich plant, eich gwragedd, a'th ddieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymynydd dy goed hyd wehynnydd dy ddwfr:

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 29