Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Yr Arglwydd a'th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef.

10. A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr Arglwydd, ac a ofnant rhagot.

11. A'r Arglwydd a'th lwydda di mewn daioni, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaear, yn y tir a dyngodd yr Arglwydd i'th dadau ar ei roddi i ti.

12. Yr Arglwydd a egyr ei drysor daionus i ti, sef y nefoedd, i roddi glaw i'th dir di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law: a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi echwyn.

13. A'r Arglwydd a'th wna di yn ben, ac nid yn gynffon; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig, ac nid yn isaf: os gwrandewi ar orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, i'w cadw, ac i'w gwneuthur;

14. Ac heb gilio ohonot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i'r tu deau neu i'r tu aswy, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt.

15. A bydd, oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a'i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; y daw arnat yr holl felltithion hyn, ac y'th oddiweddant.

16. Melltigedig fyddi di yn y ddinas, a melltigedig yn y maes.

17. Melltigedig fydd dy gawell a'th does di.

18. Melltigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid.

19. Melltigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a melltigedig yn dy fynediad allan.

20. Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felltith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodych dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinistrio a'th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y'm gwrthodaist i.

21. Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i'w feddiannu.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28