Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:61-68 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

61. Ie, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr Arglwydd arnat, hyd oni'th ddinistrier.

62. Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddech fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw.

63. A bydd, megis ag y llawenychodd yr Arglwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i'ch amlhau; felly y llawenycha yr Arglwydd ynoch i'ch dinistrio, ac i'ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o'r tir yr wyt yn myned iddo i'w feddiannu.

64. A'r Arglwydd a'th wasgar di ymhlith yr holl bobloedd, o'r naill gwr i'r ddaear hyd y cwr arall i'r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti na'th dadau; sef pren a maen.

65. Ac ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi, ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed: canys yr Arglwydd a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl.

66. A'th einioes a fydd ynghrog gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o'th einioes.

67. Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

68. A'r Arglwydd a'th ddychwel di i'r Aifft, mewn llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i'ch gelynion yn gaethweision ac yn gaethforynion, ac ni bydd a'ch pryno.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28