Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:53-68 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

53. Ffrwyth dy fru, sef cig dy feibion a'th ferched, y rhai a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, a fwytei yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat.

54. Y gŵr tyner yn dy blith, a'r moethus iawn, a greulona ei lygad wrth ei frawd, ac wrth wraig ei fynwes, ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe:

55. Rhag rhoddi i un ohonynt o gig ei feibion, y rhai a fwyty efe; o eisiau gado iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra â'r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth.

56. Y wraig dyner a'r foethus yn dy fysg, yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, gan fwythau a thynerwch, a greulona ei llygad wrth ŵr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch,

57. Ac wrth ei phlentyn a ddaw allan o'i chorff, a'i meibion y rhai a blanta hi: canys hi a'u bwyty hwynt yn ddirgel, pan ballo pob dim arall yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â'r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth.

58. Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, YR ARGLWYDD DY DDUW;

59. Yna y gwna yr Arglwydd dy blâu di yn rhyfedd, a phlâu dy had; sef plâu mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus.

60. Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aifft, y rhai yr ofnaist rhagddynt; a glynant wrthyt.

61. Ie, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr Arglwydd arnat, hyd oni'th ddinistrier.

62. Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddech fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw.

63. A bydd, megis ag y llawenychodd yr Arglwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i'ch amlhau; felly y llawenycha yr Arglwydd ynoch i'ch dinistrio, ac i'ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o'r tir yr wyt yn myned iddo i'w feddiannu.

64. A'r Arglwydd a'th wasgar di ymhlith yr holl bobloedd, o'r naill gwr i'r ddaear hyd y cwr arall i'r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti na'th dadau; sef pren a maen.

65. Ac ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi, ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed: canys yr Arglwydd a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl.

66. A'th einioes a fydd ynghrog gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o'th einioes.

67. Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

68. A'r Arglwydd a'th ddychwel di i'r Aifft, mewn llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i'ch gelynion yn gaethweision ac yn gaethforynion, ac ni bydd a'ch pryno.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28