Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:42-61 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

42. Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust.

43. Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel.

44. Efe a fenthycia i ti, a thi ni fenthyci iddo ef: efe a fydd yn ben, a thi a fyddi yn gynffon.

45. A'r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a'th erlidiant, ac a'th oddiweddant, hyd oni'th ddinistrier; am na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion a'i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti.

46. A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth.

47. Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy Dduw mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim:

48. Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisiau pob dim; ac efe a ddyry iau haearn ar dy wddf, hyd oni ddinistrio efe dydi.

49. Yr Arglwydd a ddwg i'th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, mor gyflym ag yr eheda yr eryr; cenedl yr hon ni ddeelli ei hiaith;

50. Cenedl wyneb‐galed, yr hon ni dderbyn wyneb yr hynafgwr, ac ni bydd raslon i'r llanc.

51. A hi a fwyty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaear, hyd oni'th ddinistrier: yr hon ni ad i ti ŷd, gwin, nac olew, cynnydd dy wartheg, na diadellau dy ddefaid, hyd oni'th ddifetho di.

52. A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy uchel a'th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

53. Ffrwyth dy fru, sef cig dy feibion a'th ferched, y rhai a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, a fwytei yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat.

54. Y gŵr tyner yn dy blith, a'r moethus iawn, a greulona ei lygad wrth ei frawd, ac wrth wraig ei fynwes, ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe:

55. Rhag rhoddi i un ohonynt o gig ei feibion, y rhai a fwyty efe; o eisiau gado iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra â'r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth.

56. Y wraig dyner a'r foethus yn dy fysg, yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, gan fwythau a thynerwch, a greulona ei llygad wrth ŵr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch,

57. Ac wrth ei phlentyn a ddaw allan o'i chorff, a'i meibion y rhai a blanta hi: canys hi a'u bwyty hwynt yn ddirgel, pan ballo pob dim arall yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â'r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth.

58. Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, YR ARGLWYDD DY DDUW;

59. Yna y gwna yr Arglwydd dy blâu di yn rhyfedd, a phlâu dy had; sef plâu mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus.

60. Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aifft, y rhai yr ofnaist rhagddynt; a glynant wrthyt.

61. Ie, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr Arglwydd arnat, hyd oni'th ddinistrier.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28